Bu Steve Eaves yn perfformio ar lwyfannau fel cerddor ers tros 40 mlynedd, a daeth i amlygrwydd fel bardd a gyhoeddodd ddwy gyfrol o’i waith, Noethni (1983) a Jazz yn y Nos (1986). Ar ôl cyhoeddi ei ail gyfrol o gerddi, penderfynodd ganolbwyntio mwyfwy ar ddefnyddio ei ganeuon a’i gerddoriaeth – yn hytrach na barddoniaeth – fel cyfrwng mynegiant personol. Y blŵs yw’r dylanwad pennaf ar ei waith erioed, ac mae’r ddisgyblaeth o sgrifennu barddoniaeth gynnil yn dangos yn glir yn ei ganeuon. Clywir hefyd ddylanwadau o fyd jazz ac adleisiau o ganu gwerin a roc.
Mae Steve a’i fand, Rhai Pobl, wedi recordio 9 albwm o ganeuon gwreiddiol Steve ers 1983 – yn eu plith Cyfalaf a Chyfaddawd (1985), Croendenau (1992), Y Canol Llonydd Distaw (1996), Iawn (1999) a Moelyci (1997). Cymerodd 6 blynedd i recordio ei 9fed albwm, Moelyci, a gyhoeddwyd yn 2007, ac ystyrir y casgliad hwnnw yn un o uchafbwyntiau ei yrfa.
Yn ystod gwanwyn 2011 cyhoeddwyd Ffoaduriaid (SAIN SCD 2633, casgliad 5 CD o’i hen recordiadau, yn cynnwys saith albym a nifer o ganeuon unigol a gyhoeddwyd gan Steve rhwng 1984 a 1999.
Mae Steve yn gitarydd acwstig medrus a chynnil ei arddull, sy’n canu gyda llais cynnes, agos-atoch-chi, ond hefyd efo rhywfaint o naws gras y blŵs. Mae ei fand – sydd i gyd yn dod o ardal Bangor / Bethesda yng Ngwynedd – yn cynnwys rhai o gerddorion cyfoes gorau Cymru.
Ym mis Ebrill 2011 dyfarnwyd gwobr arbennig ‘Cyfraniad Oes’ i Steve Eaves gan Radio Cymru. Mae ei waith yn parhau’n ysbrydoliaeth i wrandawyr o bob oed ac i genhedlaeth newydd o gerddorion Cymraeg. Yn 2012 enillodd Wobr Siart C2 gan Radio Cymru, am yr artist a fu ar frig y siart am y cyfnod hwyaf yn ystod y flwyddyn honno.
“Fel cyfansoddwr, bardd ac offerynnwr, mae gwaith Steve Eaves yn goroesi pob ffasiwn, a bydd ei ganeuon yn parhau yn eu hapêl i bawb sy’n gwerthfawrogi cerddoriaeth o safon”.
Mae Steve wrthi ar hyn o bryd yn recordio albwm newydd o’i waith.