Hanes Steve

Mae Steve wedi byw a gweithio yng Ngogledd Cymru am y rhan fwyaf o’i oes. Dechreuodd ei yrfa fel perfformiwr ymhell dros 45 mlynedd yn ôl. Yn ystod y 1960au hwyr a’r 1970au hwyr bu’n gweithio fel labrwr a cherddor yng Ngogledd Cymru, gan deithio y tu hwnt i Gymru yn aml i berfformio mewn clybiau gwerin a chlybiau tanddaearol y cyfnod.
Daeth yn llythrennog yn y Gymraeg yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Wedi graddio, priododd a dychwelodd i Fangor cyn ymgartrefu ym mhentref Rhiwlas, un o’r pentrefi chwarelyddol yn nalgylch Bethesda, Gwynedd. Dyna lle mae’n byw ers tros 35 mlynedd bellach.

Daeth i amlygrwydd yng nghylchoedd llenyddiaeth Gymraeg yn y 1980au cynnar pan gyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Noethni yn fuan ar ôl cyhoeddi ei gasgliad cyntaf o ganeuon,Viva la Revolución Galesa. Roedd y ddeubeth hyn yn ei osod yn un o grŵp o “feirdd answyddogol” oedd yn herio sefydliad barddonol y Gymru Gymraeg yn y cyfnod hwnnw.
Ar ôl cyhoeddi ei ail gyfrol o gerddi, Jazz yn y Nos (1986), penderfynodd ganolbwyntio fwyfwy ar ddefnyddio ei ganeuon a’i gerddoriaeth – yn hytrach na barddoniaeth – fel cyfrwng mynegiant personol.
Y blŵs yw’r dylanwad pennaf ar ei waith erioed, ac mae’r ddisgyblaeth o sgrifennu barddoniaeth gynnil yn dangos yn glir yn ei ganeuon. Clywir hefyd ddylanwadau o fyd jazz ac adleisiau o ganu gwerin a roc.

Mae Steve a’i fand wedi recordio 9 albwm o ganeuon gwreiddiol Steve ers 1983 – yn eu plith Cyfalaf a Chyfaddawd (1985), Croendenau (1992), Y Canol Llonydd Distaw (1996), Iawn (1999) a Moelyci (1997). Cymerodd 6 blynedd i recordio ei 9fed albwm, Moelyci, a gyhoeddwyd yn 2007, ac ystyrir y casgliad hwnnw yn un o uchafbwyntiau ei yrfa.

Yn ystod gwanwyn 2011 cyhoeddwyd Ffoaduriaid (SAIN SCD 2633, casgliad 5 CD o’i hen recordiadau, yn cynnwys saith albym a nifer o ganeuon unigol a gyhoeddwyd gan Steve rhwng 1984 a 1999.

Mae Steve yn gitarydd acwstig medrus a chynnil ei arddull, sy’n canu gyda llais cynnes, agos-atoch-chi, ond hefyd efo rhywfaint o naws gras y blŵs. Mae ei fand -Rhai Pobl i gyd yn dod o ardal Bangor / Bethesda yng Ngwynedd ac yn cynnwys rhai o gerddorion gorau’r sîn cerddoriaeth gyfoes yng Nghymru.

Ym mis Ebrill 2011 dyfarnwyd gwobr arbennig ‘Cyfraniad Oes’ i Steve gan Radio Cymru. Mae ei waith yn parhau’n ysbrydoliaeth i wrandawyr o bob oed ac i genhedlaeth newydd o gerddorion Cymraeg. Yn 2012 enillodd Wobr Siart C2 gan Radio Cymru, am yr artist a fu ar frig y siart am y cyfnod hwyaf yn ystod y flwyddyn honno.

“Fel cyfansoddwr, bardd ac offerynnwr, mae gwaith Steve Eaves yn goroesi pob ffasiwn, a bydd ei ganeuon yn parhau yn eu hapêl i bawb sy’n gwerthfawrogi cerddoriaeth o safon”.

Mae Steve wrthi ar hyn o bryd yn recordio albwm newydd o’i waith.