Rhai Pobol

Elwyn Williams (Guitar)

Ganed yn hirael, gwaelodion bangor / gorfodwyd i chwarae piano yn ifanc …artaith ar y pryd, difarru dim erbyn hyn / darganfod y gitar yn yr arddegau cynnar a ffarwelio agi arholiadau piano’r guildhall school of music …ac i chwarae peldroed/ darganfod roc a rol cymraeg efo iwan llwyd a hogia doctor yn nyddiau cas thatcher / blynyddoedd maith o chwarae, recordio a sgwennu caneuon efo pobol gwahanol ar hyd y lle/ dysgu lot gan bob un ohonynt a chael cyfleodd di-ri na fyddwn wedi’u cael onibai am y gerddoriaeth / byw yn aberystwyth ers pymtheg mlynedd ….a’n dal i ddysgu chwarae’r gitar a thincian y piano (weithiau)

Stephen Rees

Mae Stephen Rees yn gerddor sydd wedi’i drwytho yng ngherddoriaeth dradodiadol Cymru ers dros 30 mlynedd. Wedi’i fagu yn Rhydaman, Sir Gâr, mae wedi ymgartrefu yng Ngogledd Cymru ers 1988, gan weithio fel darlithydd cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, ac yn fwy diweddar gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ei gyflwyniad cyntaf i gerddoriaeth draddodiadol Cymru oedd trwy gyfeilio i nifer o grwpiau dawnsio gwerin tra’n yr ysgol. Yn 1982 fe ymunodd â’r grŵp gwerin Ar Log, gan deithio gyda nhw ar hyd a lled y DU, Ewrop, ac yng Ngogledd a De America. Fe recordiodd bum albym gyda nhw rhwng 1982 a 1996. Yn 1999 fe ffurfiodd y grŵp Crasdant, a deithiodd yn helaeth yng Nghymru ac yng Ngogledd America; cyhoeddodd Crasdant dair crynoddisg ar label Sain. Rhwng 2006 a 2011, fe fu’n un o gyd-gyfarwyddwyr cerddorol y Glerorfa (Cerddorfa Werin Cymru).

Yn ogystal ag ymddangos ar nifer o recordiadau gan artistiaid eraill, mae Stephen hefyd yn perfformio gyda’r gantores Sian James a’i band, ac ym mand y canwr-gyfansoddwr Steve Eaves. Yn ddiweddar, mae wedi atgyfodi ei bartneriaeth deuawd ffidil gyda Huw Roberts (Cilmeri, Pedwar yn y Bar), ond y tro hwn gyda mab Huw, Sion Gwilym, sy’n canu gitâr ac offer taro. Maent yn perfformio o dan yr enw ‘Triawd’. Ym mis Ebrill 2014, bu’n teithio Cymru fel un o’r deg cerddor traddodiadol a ddewiswyd i ffurfio ‘Cylch Canu / Songchain’.

Bu’n un o sylfaenwyr Clera (1996) a trac (1997), ac mae ganddo brofiad helaeth o arwain gweithdai cerddoriaeth draddodiadol ar hyd a lled Cymru.

GWYN JONES (GWYN MAFFIA)

HANES FEL CERDDOR

1978                            Cyd-sefydlu’r band “Weiran Bigog”- gigiau lleol.
1980                            Cyd-sefydlu Maffia Mr. Huws:
Gwobr “Band Cymraeg Gorau” yng Ngwobrau’r cylchgrawn “Sgrech!” 1983 -’84 – ’85
3 albwm, 3 sengl a 3 E.P.
Gigio’n rheolaidd yng Nghymru a Llydaw
Ymddangosiadau rheolaidd ar raglenni S4C / BBC
Cyfansoddi / recordio arwyddgan “Heno Heno” i S4C.
Gigio gyda’r bandiau : Louis a’r Rocyrs, Rhiannon Tomos, Ffenestri ac eraill.

1986                            Drymio i gynyrchiadau theatrau ac amryw o fandiau::
Theatr Gwynedd, Welsh Youth Theatre, Hwyl a Fflag.

1988                            Ymuno â Burke Shelley (Budgie) a Tich Gwilym (Racing Cars – Geraint Jarman) yn eu band o Gaerdydd, y “Superclarks”. Giogio rheolaidd yn Lloegr a Chymru

Drymiwr sesiwn i’r rhaglen “Cwlwm” (HTV).

1989 – ’91                    Ymuno â’r band pync Cymraeg “Yr Anhrefn”.
Gigio rheolaidd yng Nghymru, Lloegr, Yr Almaen, Yr Alban, Ffrainc, Tsiecoslofacia, Gwald y Basg, Awstria a’r Swistir.

Ymddangosiadau rheolaidd ar raglenni S4C / BBC.
Gigio a Recordio gyda Geraint Jarman

1992                            Sefydlu a gwasanaethu fel Cadeirydd ar brosiect cerddoriaeth “Tabernacl (Bethesda) Cyf.” ym Methesda, Gwynedd.
Trefnu gigiau yng Ngogledd Cymru gyda Mike Peters (The Alarm) ac eraill i hyrwyddo’r prosiect uchod
Gwaith sesiwn gydag amryw o fandiau.

1994 – ’98                    Prosict “Tabernacl (Bethesda) Cyf.”yn parhau. Gwaith cyson fel drymiwr proffesiynol gyda Siân James, Bryn Fôn, Steve Eaves, Tra Bo Dau, Ci Du, Meic Stevens, Celt, Dafydd Iwan, Bob Delyn a’r Ebillion ac eraill. Gigiau, gwaith teledu, teithio (Gwledydd Prydain a thramor).
Trefnodd gig gyda Super Furry Animals er budd “Tabernacl (Bethesda) Cyf.”

1998 -’01                     Parhau i wneud gwaith sesiwn gyda Siân James ac eraill (cyfanswm o 8 albwms + gigiau yng Ngwledydd Prydain, Ewrop ac UDA).

2001 – ’08                    Sefydlu Recordiau Bos a Chyhoeddiadau Bos. Agorodd Stiwdio Bos. Recordio/cymygu gwaith amryw o fandiau /artistiaid ar gyfer albyms / senglau/ sesiynau i’r BBCayyb: MC Mabon, Siân James, Anweledig, Bob Delyn, Vates, Gai Toms, Gwibdaith Hen Fran, Gwilym Morus, Parti Cut Lloi, Gwyneth Glyn, Heather Jonesa llawer o rai eraill. Recordio a chynhyrchu’r trac sain ar gyfer y ffilm “Llythyrau Ellis Williams” a chyfres “Pendalar” gan Sianco (S4C), Sawl arwyddgan i raglenni BBC Radio Cymru, Uned 5 (Cwmni Antena) ac eraill.

Perfformio’n rheolaidd gyda Maffia Mr. Huws (gan gynnwys yng Ngŵyl Bryn Terfel, Tân y Ddraig), Siân James, Steve Eaves, Martin Beattie ac eraill.